Yn mylchau'r creigydd bydd o'n rhan

(Hymn i Gymanfa o Weinidogion - Rhan II)
Yn mylchau'r creigydd
    bydd o'n rhan, 
I ddringo ar ein gliniau i'r lan, 
  A'n saethau gloewon ar ein clun,
  Nes lladd y Philistiaid bob yr un.

O deffro ni ar doriad gwawr,
I gyhoeddi'r ffoedigaeth fawr,
  I maes o'r tân sy'n d'od yn lli'
  I lawr am ben ein dinas ni.

Gwna ni fel halen â dy ras,
Yn wyn, yn beraidd iawn ei flas;
  Yn foddion yn dy law o hyd
  I dynu'r adflas sy ar y byd.

Na'd ni amcanu, na'd ni wneud,
Na cheisio meddwl dim, na d'weyd,
  Nac yn ddirgelaidd nac ar g'oedd,
  Yn unig ond'r hyn sy wrth dy fodd.

Gwna fod dy ogoniant pur di-lyth
Yn nod a dyben i ni byth;
  Dy fywyd hardd a'th eiriau gwir,
  Yn wastad i ni'n rheol bur.

O dena'n serch oddi yma 'gyd,
Fel gwir ddyeithriaid yn y byd;
  O fan i fan i deithio'n hy',
  Bob pryd ar ol d'orchymyn Di.

Doed gogledd, de, a'r dwyrain bell,
I glywed y newyddion gwell;
  Aed swn d'efengyl,
      Iesu, 'maes
  Yn gylch oddeutu'r ddaear las.

Mynydd yr Olewydd, hollt yn frau,
Ac yn ei ganol rhan e'n ddau;
  Gwna ddyffryn mawr, fel delo 'mlaen
  Y Cenhedloedd i Gaersalem lân.

O doed i ben, hwnw yw'r dydd,
Nid goleu ac nid tywyll fydd;
  Nid dydd, nid nos (a Duw a'i gŵyr),
  Pan tardd goleuni yn yr hwyr.
William Williams 1717-91

[Mesur: MH 8888]

gwelir:
  Rhan I -
'Rym yn dy erfyn Arglwydd mawr
  Dal fi fy Nuw dal fi i'r làn
  Dowch addewidion dowch yn awr
  Gwna ni fel halen â Dy râs
  Newyddion braf a ddaeth i'n bro
  O Deued dydd yr India i ben
  O Iesu mawr y Meddyg gwell
  Pererin wyf tua Salem bur

(Hymn for an Assembly of Ministers - Part 2)
In the gaps of the rocks
    shall be our portion,
To climb up on our knees,
  With our radiant arrows on our thigh,
  Until we kill the Philistines every one.

O waken us at the break of dawn,
To publish the great flight,
  Out of the fire that is coming as a flood
  Down around the head of our city.

Make us like salt with thy grace,
White, with a very sweet taste;
  Medicine in thy hand always
  To take away the world's distastefulness.

Do not let us plan, or do,
Or see to think anything, or say,
  Neither in secret nor publicly,
  Except what is according to thy will.

Make thy pure, sincere glory be
A goal and purpose to us forever;
  Thy beautiful life and thy true words,
  Constantly to us a pure rule.

O draw all our affection away from here,
Like true strangers in the world;
  From place to place to travel boldly,
  Always according to thy commandment.

Let north, south, and the far east come,
To heart the better news;
  Let the sound of thy gospel,
      Jesus, go out
  Round about the blue-green earth.

The Mount of Olives, split easily
And in the middle divide it into two;
  Make a great valley, that the nations
  May come along to holy Jerusalem.

O may it come to pass, that is the day,
No light and no darkness shall there be;
  No day, no night (and God knows it),
  When lights issue forth in the evening.
tr. 2025 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~